Desg Ewrop Greadigol y DU
Ewrop Greadigol yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd i gefnogi'r sectorau diwylliannol, creadigol a chlyweledol. Rhwng 2014-2020, mae €1.46 billion ar gael i gefnogi prosiectau Ewropeaidd, gyda'r posibilrwydd o deithio, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac annog rhannu sgiliau a datblygu.
Wedi'i lansio ym mis Ionawr 2014, mae Ewrop Greadigol yn cynnig is-raglen ddiwylliannol, sy'n darparu cyllid ar gyfer y sectorau diwylliannol, creadigol a threftadaeth, ac is-raglen Gyfryngau, sy'n buddsoddi mewn ffilm, teledu, y cyfryngau newydd a gemau.
Mae Desg Ewrop Greadigol y DU yn hybu Ewrop Greadigol trwy gyfres o seminarau, gweithdai, digwyddiadau y diwydiant ac adnoddau ar-lein. Mae ein tîm o arbenigwyr yn annog sefydliadau sectorau creadigol, diwylliannol a chlyweledol y DU i wneud cais am gyllid Ewrop Greadigol. Rydym yn cynnig cyngor a chymorth am ddim gyda'r broses wneud cais, yn ogystal â chanllawiau ar gyfleoedd i weithio ledled y byd.
Mae gennym swyddfeydd ledled Prydain, yn Llundian, Manceinion, Caeredin, Glasgow, Caerdydd a Belfast, felly ble bynnag ydych, mae croeso ichi gysylltu â ni.
Os am gael rhagor o wybodaeth yn y Gymraeg, cysylltwch â Desg Ewrop Greadigol y DU - Cymru.